Ar hyn o bryd, mae Pwyllgor Deddfwriaethol wedi ei sefydlu yn y Cynulliad i dderbyn tystiolaeth wrth bobl Cymru i weld a oes angen datganoli'r pwerau dros y Gymraeg o San Steffan i'r Cynulliad yng Nghymru. Mae angen gymaint ag sy'n bosib i ddangos fod galw am y pwerau.
Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (LCO) gan Lywodraeth y Cynulliad, yn galw am ddatganoli grym dros ddeddfu ym maes y Gymraeg o'r Senedd yn Llundain i'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Nid yw'r LCO yn ddigon cryf, ac mae ofn mawr y bydd Aelodau Seneddol yn Llundain yn ceisio gwanhau'r pwerau a fydd yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad ymhellach.
Y mwyaf o bobl fydd yn gwneud hyn, y mwyaf o bwysau fydd ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli'r grymoedd yn llawn i'r Cynulliad, ac ar Lywodraeth y Cynulliad i roi Mesur Iaith Cyflawn i ni!
NEGES DDWYIEITHOG / BILINGUAL MESSAGE
At sylw: Aelodau Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5, Cynulliad Cymru.
cc: Rhodri Morgan (Prif Weinidog Cymru), Ieuan Wyn Jones (Dirprwy Brif Weinidog Cymru), Alun Ffred Jones (Y Gweinidog dros Dreftadaeth), Swyddfa Deddfwriaeth.
Cysylltaf â chi fel aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wrthi yn ymgynghori ar y Gorchymyn arfaethedig, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar Chwefror 2il, 2009.
Credaf mai Llywodraeth y Cynulliad sydd â'r hawl foesol i ddeddfu dros y Gymraeg; mae consensws cryf ar draws holl bleidiau'r Cynulliad, a thrwy Gymru i'r egwyddor mai yng Nghymru y dylid deddfu ar y Gymraeg ac nid yn San Steffan. Yn wir, credaf fod angen trosglwyddo'r holl bwerau dros y Gymraeg, heb unrhyw gyfyngiadau, i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
O dderbyn hyn, galwaf arnoch i roi'r pwyslais ar anghenion pobl Cymru a'r Gymraeg ac i bwyso ar aelodau eraill y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad sy'n argymell na fydd unrhyw wanhau ar y Gorchymyn. Yn hytrach, dymunaf ichwi gryfhau'r Gorchymyn er mwyn sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg a gwireddu cyfle hanesyddol i adeiladu cymdeithas deg ddwyieithog.
Yn benodol, gofynnaf i chwi ystyried cefnogi'r pwyntiau canlynol;
* Dileu'r amod bod rhaid derbyn isafswm o £200,000 o arian cyhoeddus, a gosod disgwyliadau ar y sector breifat yn gyffredinol er mwyn sicrhau cysondeb, eglurder a symylrwydd i'r defnyddiwr wrth iddo/iddi geisio ddefnyddio'r Gymraeg.
* Yn ogystal â sefydlu'r rhyddid i siarad Cymraeg yn y gweithle, mae angen sefydlu'r hawl i weithio drwy'r Gymraeg er mwyn dileu unrhyw amwysedd, a Chymreigio gweinyddiaeth mewnol cyrff a chwmnïau.
* Nid yw'r Gorchymyn yn cyfeirio at yr angen i sicrhau'r hawl i reithgor Cymraeg - gan nad yw maes Cyfiawnder Troseddol wedi ei ddatganoli, galwaf arnoch i ystyried sut mae modd sicrhau'r hawl pwysig yma.
* Ychwanegu at y cyrff a enwir o fewn y Gorchymyn er mwyn normaleiddio defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru a sicrhau gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywydau pobl Cymru. Dylid cynnwys siopau a chwmnïau preifat, cyfleusterau hamdden ac adloniant, bwytai a thafarndai, gwasanaethau bancio ac ariannol ar y stryd fawr ac ar y we.
* Ychwanegu at y rheilffyrdd holl ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus; cwmnïau awyrennau, llongau a bysus.
Mae'n gwbl angenrheidiol bod y Gorchymyn yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i lunio Mesur, neu Fesurau Iaith cyflawn fydd yn sicrhau mynediad teg a chyfartal i bawb yng Nghymru i'r iaith Gymraeg. Cytunaf â'r angen i sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg, hawliau i bawb yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd ynghyd a Chomisiynydd Iaith fydd â'r grym i erlyn cyrff nad sy'n cydymffurfio â'r ddeddf.
===============
Attention of: Members of Legislation Committee No. 5, Welsh Assembly.
cc: Rhodri Morgan (First Minister), Ieuan Wyn Jones (Deputy First Minister), Alun Ffred Jones (Minister for Heritage), Legislation Office.
I am writing to you in your role as a member of the Legislation Committee No. 5, which is currently consulting on the proposed National Assembly for Wales (Legislative Competence) (Welsh Language) Order 2009, published by the Welsh Assembly Governments on February 2nd, 2009.
I believe that the Welsh Assembly Government has the moral right to legislate on the Welsh Language; there is a strong consensus across the political spectrum in the Assembly and indeed throughout Wales in favour of the principle that legislation relating to the Welsh Language should be made in Wales and not in Westminster. Indeed, I believe that all of powers in relation to the Welsh Language, without any restrictions should be transferred to the Welsh Assembly in Cardiff.
In accepting this principle, I call upon you to respond to the needs of the people of Wales and the Welsh language, and to press upon the other members of the Committee to present a report, which will not recommend any weakening of the LCO. Rather I call on you to strengthen the LCO in order to ensure equality for the Welsh Language and realise a historic opportunity to create a truly bilingual society.
I would ask you to consider lending your support to the following specific points:
* Removing the limit of £200,000 with regard to bodies who receive public money and place expectations on the public sector in general in order to ensure consistency, clarity and simplicity for the service user.
* In addition to establishing the freedom to speak through the medium of Welsh in the workplace, it is necessary to establish the right to work through the medium of Welsh thus removing any ambiguity and promoting a process whereby bodies and companies use the Welsh language internally as well as externally.
* The LCO does not include provision to establish the right to a Welsh speaking jury - as criminal justice is not a devolved power, I ask you to consider how this essential right can be realised.
* Extend the list of bodies named in the LCO in order to normalise the use of the Welsh Language in Wales and ensure that this legislation makes a real difference to the quality of life of the people of Wales. I would wish to see shops and private companies, leisure facilities, retail outlets, entertainment facilities, restaurants and taverns, all banking and financial services on the high street and internet are included in the LCO.
* Add all means of public transport not only the railway companies. I would like to see plane, shipping and bus companies included in the LCO.
It is of vital importance that the LCO enables the Welsh Assembly Government to draft a Comprehensive Language Measure or Measures, which will ensure fair and equal access to the Welsh Language for all the people of Wales. I support the need to establish official status for the Welsh Language, statutory rights for all the people of Wales to use the Welsh Language in every aspect of their lives, and establish a Commissioner for the Welsh language with the necessary power to prosecute bodies that do not adhere to the new legislation.