tafod.jpg hafan cymdeithas.org
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Dyfodol Digidol
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Hanner Cant
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Tynged yr Iaith 2

hysbystynged2.gifY Gell Blaenau Ffestiniog, Ionawr 15 fed 2 y pnawn

Araith newydd ar gyfer cyfnod newydd yng nghwmni Menna Machreth, Ceri Cunnington a Phlant y Parc.

Gallwch ail-wylio'r darllediad isod. Trawsgrifiad llawn yma.





Bron i hanner can mlynedd ar ôl darlledu darlith 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis ar y radio, bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhannu ei gweledigaeth ar sut gallwn ni sicrhau Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy - Tynged yr Iaith 2. Rydym ni am i ti fod yno, yn y Gell Blaenau Ffestiniog neu yn gwylio yn fyw yma ar ein gwefan.

Byddwn ni'n gosod her i'n holl aelodau i ymuno gyda ni i sicrhau dyfodol cadarn i'r Gymraeg a ffyniant ein cymunedau naturiol Gymraeg. Y cam cyntaf yn unig yw'r digwyddiad ym Mlaenau Ffestiniog, felly mae'n bwysig iawn i ni dy fod ti yno - unai ym Mlaenau Ffestiniog neu yn gwylio ar wefan Cymdeithas yr Iaith.

Bydd cyfle i ti glywed am y gwaith cymunedol sydd yn digwydd ym Mlaenau Ffestiniog a'r cyfleodd gwych sy'n cael eu cynnig i bobl leol ddod a gweithio gyda'i gilydd yn naturiol Gymraeg. Bydd plant ysgol Parc hefyd yno i ddiddanu, mae Parc yn enghraifft arall o gymuned sydd wedi aros yn gryf, a hynny yn wyneb pryderon am gau eu hysgol leol.

Er fod problemau yn wynebu pob un o'n cymunedau rhaid i ni bwysleisio'r angen i ni ddod at ein gilydd, yn ein cymunedau ac yn genedlaethol, er mwyn cael llais cryf dros ein cymunedau. Fe wnaeth darlith Saunders Lewis ddechrau cyfnod o weithredu yn bositif dros y Gymraeg, gyda dy help di gallwn ni weld yr un peth yn digwydd eto. Os wyt ti'n poeni am dy gymuned tyrd i fod yn rhan o'n gweledigaeth newydd ni!

Cofia felly i ddod i Flaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn nesa (y 15fed o Ionawr) am 2pm neu wylio yn fyw ar y we

Mwy yn yr un categori(au): Gwynedd Môn
.

nôl i'r brig