|
|||||
|
|
|
Carchar am 35 diwrnod i Jamie BevanCafodd Jamie Bevan ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful y bore yma am wrthod talu dirwy a orchmynnwyd iddo ei dalu mewn gohebiaeth uniaith Saesneg. Cafodd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful ei erlyn am iddo wrthod talu dirwy a osodwyd arno am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn toriadau i S4C. Defnyddiodd yr achos i brotestio yn erbyn yr ohebiaeth uniaith Saesneg oddi wrth y llysoedd. Daw'r newyddion wedi'r cyhoeddiad am farwolaeth Eileen Beasley, un o'r ymgyrchwyr cyntaf i fynd i'r llysoedd er mwyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg. Anfonwch neges o gefnogaeth iddo trwy'r post:
"Dros y flwyddyn a hanner diwethaf rydw i wedi dilyn dulliau hollol gyfansoddiadol wrth wneud cwynion am y gwasanaeth Cymraeg pytiog a thameidiog sy'n dod o'r llysoedd a'r system gyfiawnder. Dwi wedi derbyn ymddiheuriad ar ôl ymddiheuriad gyda'r sicrhad bod gweithdrefnau yn cael eu rhoi mewn lle i wneud yn si?r nad yw'r camgymeriadau, fel y gelwir, yn digwydd eto. Ond parhau mae'r llythyron uniaith, y gwasanaeth ffon gydag opsiwn Cymraeg sydd yn arwain 'nunlle, y wawdio a'r amharch gan staff y llysoedd, yr heddlu a'r staff diogelwch. "Yn ôl eich cynllun iaith, does dim hawl i Gymro gael gwrandawiad o flaen Llys Cymraeg. Mae'n dweud y byddwch yn trio darparu llys Cymraeg ond os na allwch fe fydd cyfieithydd yn cael ei ddarparu. "Mae siaradwyr Cymraeg dan anfantais enfawr wrth dderbyn gwrandawiad trwy gyfrwng cyfieithydd gan nad ydy cyfieithydd yn galluogi'r unigolyn i gyfathrebu yn uniongyrchol a'i farnwyr/ Yn wir, mae llawer o gyfreithwyr yn cynghori eu cleientiaid i beidio â mynd am achos Cymraeg gan eu bod yn cydnabod yr anfantais yma. Sefyllfa hurt yn y Gymru fodern. ![]() Daeth 50 o bobl i gefnogi Jamie tu allan i'r Llys.
"Does dim bwriad gen i gydffurfio. Does dim bwriad gen i i dalu'r un ceiniog o'r dirwy serch y ffaith y gallaf wneud yn hawdd yn ariannol. Gwnewch fel y mynnwch gyda fi. Dwi'n derbyn yn llawen unrhyw ganlyniad." Mewn datganiad o gefnogaeth a gytunwyd gan yr AS Llafur Susan Elan Jones a Llywydd Plaid Cymru Jill Evans, dywedon nhw: "Rwyf yn awyddus i ddatgan fy nghefnogaeth i Jamie Bevan yn ei achos llys heddiw ym Merthyr yn dilyn ei weithred yn yr ymgyrch dros achub S4C. Mae'r ffaith bod Jamie wedi derbyn gwys Saesneg dwywaith a gwrandawiad Saesneg yn gwbl annerbyniol. Mae dyletswydd ar wasanaeth y llysoedd i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Rwy'n falch bod Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i'r sefyllfa. Mae'n bwysig iawn bod y Comisiynydd yn dangos ei bod yn gallu sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg a bod Mesur Iaith 2011 yn gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pob dydd pobl Cymru." ![]() Jamie yn annerch y dorf cyn ei ddedfryd.
Mwy yn yr un categori(au):
Morgannwg Gwent
|
Newyddion
| |||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||