|
Ymchwiliad i'r rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu ers deugain mlynedd ym maes darlledu ac wedi chwarae rhan allweddol yn y frwydr i sicrhau S4C a gwasanaeth Cymraeg ar y radio. Er pan y dechreuodd y Gymdeithas ymddiddori yn y maes yr ydym wedi credu y dylai fod gan Gymru ei gwasanaeth darlledu annibynnol ei hun, un sydd yn annibynnol i Lundain ac sy'n rhoi'r parch dyledus i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru. Felly yr ydym yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn gyda deugain mlynedd o brofiad y tu cefn i ni.
1. Ein gweledigaeth
Mae presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, hawliau i'r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i'w defnyddio a'i dysgu, ond hefyd i'w gwrando a'i gweld. Yn ogystal, credwn fod cynnwys Cymraeg unigryw ar y cyfryngau yn cyfoethogi a chryfhau'r iaith. Felly, mae presenoldeb a defnydd cynhwysfawr o'r iaith ar y teledu, radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol i'n gweledigaeth ni fel mudiad.
Nid yw'r weledigaeth hon yn gyfyngedig i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn unig. Prif nod y Comisiynydd Iaith newydd sydd ar fin cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yw sicrhau "i'r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.". Nod sy'n adlewyrchu uchelgais a amlinellwyd yn nogfen Iaith Pawb yn 2003 sef bod 'pawb ledled Cymru yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn ystod eu bywydau cymdeithasol, eu horiau hamdden a'u gweithgareddau busnes'.
Bydd dyletswydd ar y Comisiynydd Iaith i wasanaethu pobl Cymru i gyd - o bob oedran a phob gallu ieithyddol. Mae dysgwyr wedi nodi pwysigrwydd gweld a chlywed y Gymraeg ar amryw gyfryngau, gan gynnwys S4C, gan mai hwnnw yw eu hunig gyswllt rhai â'r Gymraeg tu allan i'r dosbarth. Wrth i ni droi yn fwy ac yn fwy at deledu a'r we yn ein hamser hamdden mae'n holl bwysig fod y gwasanaethau hyn ar gael yn rhwydd i bawb yn Gymraeg.
Heriau i'r Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith yn rhagweld y bydd canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos dirywiad yn nifer ein cymunedau Cymraeg, sef y rhain lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Credwn fod nifer o ffactorau yn effeithio ar iaith ein cymunedau a bod angen gallu defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd os yw'r Gymraeg i barhau yn iaith ffyniannus a byw.
Mae'n cymunedau, sydd eisoes yn fregus, yn wynebu cyfnodau anodd. Wrth i swyddi gael eu colli ym mhob diwydiant mae cwmnïau sydd yn cynhyrchu rhaglenni teledu, yn ogystal â'r BBC, wedi cyhoeddi bydd cwtogi swyddi. Mae hyn yn destun pryder i ni gan ein bod yn rhagweld mwy o doriadau a mwy o swyddi yn cael eu colli. Golyga hyn y bydd mwy yn gadael ein cymunedau er mwyn cael gwaith, a gan mai pobl ifanc sydd yn cael eu hefthio waethaf, nhw fydd y cyntaf i adael.
Effaith y farchnad rydd
Gellir gweld yn glir effeithiau negyddol y farchnad rydd yng nghyd-destun radio lleol, lle mae allbwn Cymraeg wedi dirywio yn sylweddol oherwydd diffyg rheoleiddio. Mae hanes Radio Ceredigion a Radio Sir Gar yn enghreifftiau o'r hyn sydd yn digwydd. Mae hefyd wedi amlygu tueddiad y farchnad i danseilio mentrau Cymraeg eu hiaith, gan nad yw'r gyfraith yn amddiffyn natur ieithyddol y mentrau hyn.
Methiannau'r farchnad yw un o'r rhesymau sefydlwyd S4C mewn statud. Cyn bodolaeth ein hunig sianel teledu Cymraeg, bu raid i raglenni Cymraeg gystadlu gyda rhaglenni Saesneg am arian a lle yn yr amserlen. Mae'n destun pryder i ni o hyd y bydd y cytundeb rhwng y BBC ac S4C yn arwain at greu tyndra cystadleuol rhwng y ddwy iaith, rhywbeth sy'n gwrth-ddweud y neges o ddwyieithrwydd cyfartal sydd wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly'n gam enfawr yn ôl.
Datganoli Darlledu i Gymru
Mae newidiadau a chwtogiadau diweddar i S4C a BBC Cymru yn profi nad oes gan sefydliadau San Steffan ddealltwriaeth o anghenion unigryw Cymru.
Bu consensws ar draws cymdeithas sifil nad yw'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer S4C o fudd i'r Gymraeg na Chymru yn ehangach. Cafodd y cynlluniau ar gyfer S4C eu beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, degau o undebau a mudiadau iaith a degau o filoedd o bobl a lofnodont ddeiseb, mynychu ralïau ac anfon cwynion at wleidyddion. Yn hytrach na brwydro yn erbyn y cynlluniau, ceisiodd y darlledwyr weithio o fewn cyfyngiadau'r cynlluniau annoeth a gytunwyd rhwng Ymddiriedolaeth y BBC yn Llundain ac Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Jeremy Hunt, ar y funud olaf ym Mis Hydref y llynedd. Yn hynny o beth, anwybyddodd Llywodraeth San Steffan a'r darlledwyr llais unedig Cymru.
Bu braidd dim ymgynghoriad ag S4C na gwleidyddion o Gymru yn ystod y broses gynllunio i gwtogi ar gyllideb y sianel. Ymhellach, bu'r cytundeb newydd rhwng S4C, y BBC a DCMS yn fait accompli wedi ei orfodi ar bobl Cymru heb drafodaeth ddemocrataidd am ddyfodol S4C. Mater o siom oedd parodrwydd Awdurdod S4C i gydweithio mewn gorfodi cytundeb o'r fath. Yn wyneb y diffyg democratiaeth, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y byddwn yn canolbwyntio bellach ar bwyso ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod grymoedd dros ddarlledu yn cael eu datganoli i Gymru. Mynnwn fod ACau a phob corff darlledu yn cefnogi'r galwad.
Yn ogystal, fe welir sefyllfa yn datblygu yn y farchnad radio ble mae'r Gymraeg yn fwy ac yn fwy anghlywadwy oherwydd diffygion y gyfundrefn reoleiddio. Cyfaddefodd Rhodri Williams, Pennaeth Ofcom yng Nghymru, yn ddiweddar:
"Ein dehongliad clir ni, yw does dim p?er ganddon ni i wneud hwn [gosod amodau iaith ar drwyddedau radio]"
[tud. 4, Golwg, Tachwedd 3ydd 2011]
Ac wrth edrych ar fwriadau Ysgrifennydd Diwylliant y DU ar gyfer y Bil Cyfathrebu, gwelwn eto diffyg dealltwriaeth o'r cyd-destun Cymreig, gyda phwyslais ar y farchnad rydd a lleihau rheoleiddio, polisïau sydd yn tanseilio'r Gymraeg. Credwn mai Cymru sydd â'r hawl foesol i benderfynu dyfodol darlledu yng Nghymru, ac mae angen cyfrifoldeb yn ein corff democrataidd yma yng Nghymru er mwyn osgoi penderfyniadau annoeth sydd yn cael eu gwneud heb ymgynghriad a chymdeithas sifil yng Nghymru.
2. Cyfryngau Digidol
Pwysigrwydd meddalwedd cod agored i'r Gymraeg
Credwn fod argaeledd meddalwedd cod agored yn creu rhagor o gyfleoedd i fentrau Cymraeg ffynnu. Amlygir y patrwm hwn gan feddalwedd megis WordPress, MediaWiki, Linux, Firefox a LibreOffice, lle gwelir yr enghreifftiau gorau o ddefnydd y Gymraeg.
Dylai'r Llywodraeth fuddsoddi ym mhrosiectau lleoleiddio, megis y prosiect agored.com lle troswyd OpenOffice i'r Gymraeg gyda chymorth arian cyhoeddus. Mae'r statws cod agored yn sicrhau rhyddid i ail-ddefnyddio'r cod ar gyfer prosiectau a phwrpasau eraill. Er enghraifft, yn sgil y gwaith ar OpenOffice, galluogwyd ail-ddefnyddio'r un eirfa mewn ategyn Firefox (gweler http://murmur.bangor.ac.uk/?p=14 am ragor o wybodaeth). Ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o brosiectau lleoleiddio yn dibynnu ar wirfoddolwyr, ac felly tameidiog yn hytrach na chynhwysfawr yw argaeledd meddalwedd yn y Gymraeg.
Ar y we, mae systemau rheoli cynnwys (content management systems) fel WordPress a Drupal yn cael eu defnyddio yn aml iawn fel seiliau gwefannau llywodraethau, sefydliadau a chwmnïau. Felly mae rhaid ystyried systemau rheoli cynnwys a'u themâu ac ategion fel rhan o isadeiledd y we. Mae sefydliadau, busnes, cymdeithas sifil ac unigolion yn gallu manteisio ar y systemau i gyhoeddi cynnwys o Gymru ac yn Gymraeg.
Awgrymwn felly y dylai Llywodraeth Cymru mabwysiadu polisi sydd yn ffafrio defnydd o feddalwedd cod agored yn y sector cyhoeddus - gallai Comisiwn y Cynulliad arwain y gad yn hynny o beth. Credwn ymhellach y dylid sefydlu cronfa ddigidol i hyrwyddo prosiectau y soniwyd amdanynt uchod a fyddai gwneud cyfraniad positif i'r cyfryngau yn ogystal â'r Gymraeg.
Buddsoddi mewn 'diwylliant rhydd' ar-lein
Fe dardda'r term 'diwylliant rhydd' o'r llyfr Free Culture gan Yr Athro Lawrence Lessig, unigolyn blaenllaw yn y maes cynnwys. Cred y Gymdeithas yw bod diwylliannau Cymraeg, ar gyfartaledd, yn elwa o gynnwys ar-lein sydd heb ei gyfyngu gan drwyddedau hawlfraint llym. Felly, fe ddylwn, fel cymdeithas, ffafrio rhyddhau cynnwys Cymraeg mewn ffurf a alluogir cymaint o ddefnyddwyr â phosib, darllen, gwylio a chlywed yr iaith ar-lein.
Gellir cryfhau defnydd o'r Gymraeg, datblygu ein corpws iaith a chreu cyfleoedd i'w ail-ddefnyddio o gwmpas y we a thu hwnt trwy greu cyfleoedd i rannu cynnwys Cymraeg, neu fuddsoddi mewn prosiectau cynnwys Cymraeg.
Er enghraifft, un o'r rhesymau y mae Wikipedia wedi bod mor llwyddiannus yw oherwydd ei defnydd o drwyddedau rhydd, sef GFDL a Creative Commons. Mae cyfranwyr Wikipedia yn gallu cyfranogi yn hyderus gan fod y drwydded yn sicrhau rhyddid i allforio'r cynnwys yn y dyfodol ar gyfer unrhyw ddefnydd. Yng ngwlad y Basg, mae'r Llywodraeth wedi manteisio ar y cyfle i fuddsoddi mewn creu 10,000 erthygl Basgeg ar blatfform Wikipedia Euskara: http://haciaith.com/2011/06/15/llywodraeth-euskadi-yn-fodlon-talu-am-10000-erthygl-ir-wikipedia-basgeg/
Wrth i'r Llywodraeth ystyried buddsoddi mewn prosiectau o'r fath, dylai'r Llywodraeth ystyried ariannu prosiectau ymchwil ynghylch defnydd o dechnoleg yng Nghymru fel bod modd gwella darpariaeth Gymreig a Chymraeg trwy bob cyfrwng.
Ymhellach, dylid ystyried sefydlu geiriadur uniaith Cymraeg ar-lein, gan mai geiriaduron Cymraeg i Saesneg neu vice-versa yw'r unig rhai ar gael ar hyn o bryd. Byddai geiriadur Cymraeg o'r fath, yn cyfrannu at y corpws iaith arlein yn ogystal a chyfrannu at wella ei defnydd yn y cyfryngau digidol.
Dysgwyr
Dylid manteisio ar y cyfleoedd i ddarparu deunydd dysgu Cymraeg ar-lein, trwy ryddhau nodiadau gwersi 'Cymraeg i Oedolion' ar y we o dan drwydded rydd fel Creative Commons. Credwn y gwelid nifer o fanteision rhyddhau deunydd cwrs yn y fath modd, megis helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau, ehangu'r galw am wersi proffesiynol a chynorthwyo sefydliadau a chwmnïau wrth iddynt addysgu'r iaith yn y gweithle. Byddai cam o'r fath yn cynyddu'r galw am gynnwys Cymraeg yn gyffredinol.
DotCymru
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi'r ymgyrch i gael parth Gymraeg ar y we fyd-eang. Barn y Gymdeithas yw y dylid arddel enw Cymraeg ar y parth .cymru. Mae'r Gymdeithas yn nodi mai .cymru yw'r dewis mwyaf poblogaidd ymhlith pobl Cymru, yn ol arolwg gan yr ymgynghoriaeth economaidd LE Wales.
(http://www.walesonline.co.uk/business-in-wales/business-news/2011/11/09/internet-domain-name-for-wales-or-cymru-could-help-business-91466-29742711/)
Rydym yn gofidio y byddai darparu parth Saesneg .wales yn unig yn cadarnhau camwahaniaethu yn erbyn defnydd o'r Gymraeg sy'n bodoli yn yr economi ddigidol ar hyn o bryd.
3. Sianel Pedwar Cymru (S4C)
Diffygion y Setliad
Er ymddengys fod rhyw fath o sicrwydd ariannol i S4C nes 2017, mae'r sianel yn dal i wynebu cwtogiadau enfawr, ac mae annibyniaeth y sianel heb warant a gan bod un darlledwr yn rheoli darlledwr arall. Felly, er ein bod yn sicr y bydd S4C yn bodoli yn y dyfodol, nid oes sicrwydd am y math o ddyfodol sy'n ei wynebu. Heb newidiadau i'r cynlluniau a gyhoeddwyd, pryderwn y byddwn yn wynebu cystadleuaeth am adnoddau rhwng dwy iaith ein gwlad.
Mae'r ffaith fod y trafodaethau a'r cytundeb wedi eu gwneud tu ôl i ddrysau caeedig, gan gadw'r gynulleidfa a phobl Cymru allan o'r broses, yn dangos union feddylfryd y ddau gorff. Mae S4C wedi symud oddi wrth yr hyn oedd gan bobl mewn golwg wrth ymgyrchu a galw am sianel Gymraeg. Ymateb, cynrychioli a gwasanaethu'r hyn roedd pobl ei eisiau oedd y weledigaeth ar gyfer S4C wrth ei sefydlu. Bu'r sianel yn driw i hynny am gyfnod ond erbyn hyn mae'n cael ei gweld yn gorff sydd yn canoli gwaith yn hytrach na defnyddio'r cyfle i roi gwaith a chyfleoedd i bobl yn eu cymunedau a fyddai yn golygu fod S4C yn rhywbeth perthnasol ac yn perthyn i'n cymunedau ac felly yn agosach at y bobl.
Datganoli
Buom yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu gan ein bod yn credu mai yma yng Nghymru y dylid gwneud penderfyniadau sydd yn effeithio ar gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Yn sgil yr ymdriniaeth o'r sianel gan Lywodraeth Prydain a'r BBC yn Llundain, a'r cytundeb annemocrataidd rhwng S4C a'r BBC rydym yn gwbl argyhoeddedig mai datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yw'r unig ffordd ymlaen bellach.
Yn fwy na hynny credwn y dylai S4C, fel y BBC, fod yn lleoli ei hun yn ein cymunedau gan gydnabod ei bod yn economi iaith Gymraeg sydd rol i'w chware wrth hybu economi iaith Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru gyda'r nod o'u gwneud yn gynaliadwy.
Ffigurau Gwylio
Ni ddylid barnu llwyddiant y sianel ar ei ffigurau gwylio, ond yn hytrach ei chyfraniad i'r iaith Gymraeg, er hynny croesawn y ffaith bu cynnydd o 3% i'r nifer sydd yn gwylio S4C a chynnydd o 54% i'r nifer sydd yn gwylio S4C ar-lein, yn ôl ffigyrau eleni. Wedi dweud hynny, derbyniwn y gallai S4C perfformio'n well, ac felly galwn am S4C newydd.
Tu hwnt i ffigyrau gwylio, dylid ystyried ystadegau eraill sydd yn ymwneud a'r amgylchedd aml-blatfform, lle mae natur y perthynas rhwng y cynhyrchiwr a'r cynulleidfa yn wahanol i'r hyn a welir ar deledu traddodiadol. Er enghraifft, mae'r cynulleidfa yn gwylio'r rhaglennu ar blatfformau gwahanol ar unrhyw adeg ac yn cyfranogi trwy Twitter, Facebook, gemau, sylwadau, cynnwys defnyddwyr ('user-generated content') ac ati.
S4C newydd
Mae angen S4C aml-gyfryngol sy'n atebol i bobl Cymru. Credwn ymhellach y dylid datganoli S4C ar draws Cymru ac y dylai fod yn ymwybodol o'i chyfraniad tuag at adfywio cymunedau a chynaliadwyedd cymunedau Cymraeg.
Mae trawstoriad eang o bobl yn edrych ar S4C, mae'n rhoi cyfle i blant wylio a theimlo bod y Gymraeg yn normal gan fod cymeriadau a rhaglenni maent yn eu gweld o ddydd i ddydd yn Gymraeg. Dylai hyn barhau tu hwnt i oedran blynyddoedd cynnar. Mae yna dueddiad o hyd i gysylltu'r Gymraeg a'r ysgol a bod plant yn 'tyfu allan' o'r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae S4C yn cadarnhau hyn drwy fod digon o raglenni i blant ifanc ond nad oes, mewn gwirionedd, amrywiaeth ddigonol i bobl yn eu harddegau, mae hyn yn rhywbeth sydd angen ei newid.
Wrth i dechnoleg ddatblygu mae pobl yn gwylio teledu mewn ffordd wahanol ac yn defnyddio llawer yn fwy o'r we ac o dechnoleg ar eu ffonau symudol ac yn y blaen. Rhaid i'r Gymraeg fod yn rhan o'r datblygiadau yma neu bydd yn troi yn rhywbeth amherthnasol i'r hyn mae pobl ifanc yn arbennig yn ymwneud ag ef yn naturiol o ddydd i ddydd. Mae nifer o brosiectau eisoes yn bodoli, a gallai S4C fod yn rhan o hyn drwy ddarparu swm bach i'w datblygu.
Rydym yn awyddus iawn i weld S4C yn ymestyn ei chylch gorchwyl i gynnwys y cyfryngau digidol, ar yr amod bod adnoddau ychwanegol ar gael i gyflawni hyn, fel ei bod yn gyhoeddwr cyfryngau yn hytrach na bod yn gyfyngedig i sianel deledu yn unig.
Byddai sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer ffyniant o'r math yn holl bwysig. Dylid dynodi canran sylweddol o fformiwla ariannu Awdurdod S4C i'w fuddsoddi mewn cyfryngau digidol er mwyn adeiladu cynulleidfa'r dyfodol, gan sicrhau bod teledu llinellol yn parhau'n gryf. Dylid penodi cyfarwyddwr digidol er mwyn datblygu hyn.
Yn fras felly, galwn am S4C newydd yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
SICRWYDD ARIANNOL - Ni ellir rhedeg sianel deledu heb sicrwydd yngl?n â chyllid digonol. Credwn fod angen fformiwla ariannol i S4C mewn statud ac ar sail chwyddiant a fyddai'n rhoi sefydlogrwydd hir dymor iddi wneud ei gwaith yn hyderus.
ANNIBYNIAETH - Mae annibyniaeth gwasanaethau cyfryngau cyhoeddus Cymraeg yn hanfodol er mwyn sicrhau plwraliaeth gyfryngol a democrataidd. Rhaid i Awdurdod S4C ac S4C fod yn annibynnol o'r BBC ac eraill yn olygyddol, strategaethol a chreadigol.
SAFON - Mae cyfryngau Cymraeg sydd o safon gyfatebol i'r cyfryngau a geir yn yr iaith Saesneg yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg.
DIGIDOL - Mae creu ecosystem gyfryngol amrywiol yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg. Mae buddsoddiad sylweddol mewn cyfryngau digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn briod iaith pob cyfrwng.
CYDWEITHIO - Mae cydweithrediad rhwng sefydliadau cyfryngol a thu hwnt yn hanfodol er mwyn galluogi ein cyfryngau i fod mor gryf â phosib, ond cydweithio nad yw'n peryglu annibyniaeth y darparwr Cymraeg.
DATGANOLI'R SIANEL O GWMPAS CYMRU - Credwn fod pencadlys presennol S4C yn Llanisien yn anaddas ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru ac y dylid datganoli rhannau gwahanol o'r broses o redeg gwasanaeth cyfryngau Cymraeg cyhoeddus.
S4C CYFRWNG CYMRAEG - Dylai'r sianel fod yn uniaith Gymraeg; dyma sy'n ei gwneud yn unigryw ymysg holl sianeli eraill y byd
Cyllid
Dylid pwysleisio mai trefniadau dros dro yw cytundeb S4C ar hyn o bryd - bydd rhaid ail-ystyried erbyn adnewyddu'r ffi drwydded 2017-2027. Bydd ymgynghori ar ddeddf cyfathrebu newydd yn San Steffan y flwyddyn nesaf. Erbyn gosod y trefniadau terfynol ar gyfer S4C, rhaid sicrhau annibyniaeth i'r sianel a fformiwla ariannu mewn statud. Dylai Llywodraeth Cymru arwain y drafodaeth hon.
Oherwydd y toriadau enfawr i gyllideb y sianel, bydd Adran y Ddiwylliant yn Llundain ond yn cyfrannu £7 miliwn gogyfer S4C yn y flwyddyn ariannol 2014/2015. Nid yw'n swm mawr i'w ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe fyddai'n golygu bod grym dros y sianel yn symud i Gymru. Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau cyfrannu arian tuag at y sianel er mwyn mynnu mwy o lais wrth ffurfio seiliau dyfodol y sianel. Gallai'r cyfraniad hynny helpu sicrhau annibyniaeth i'r sianel oddi wrth y BBC trwy sicrhau bod gan wleidyddion yng Nghymru rhyw fath o reolaeth dros y berthynas.
Ynghyd ag undebau darlledu, fe gyhoeddom ddogfen polisi a gefnogir yr alwad am ardoll (levy) ar ddarlledwyr a chwmnïau telathrebu preifat fel bod modd ariannu darlledu cyhoeddus. Amcangyfrifir y gellid codi degau o filiynau o bunnau trwy godi ardoll o'r fath, yn ol ymchwil a gomisiynwyd gan BECTU a'r NUJ.?
4. Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC)
Rydym yn pryderu oherwydd y cwtogiadau i BBC Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, credwn ei fod yn fygythiad i'n democratiaeth yn ogystal ag i fywyd ein cenedl yn yr ystyr ehangach. Pryderwn hefyd fod nifer o raglenni o bwys diwylliannol a gwleidyddol a ddarparwyd i S4C a Radio Cymru o dan fygythiad. Tra bod y BBC yn Llundain wedi gwneud eu gorau glas i amddiffyn Radio 4 dydyn nhw ddim ceisio amddiffyn gwasanaethau Cymru oherwydd nad ydynt yn berthnasol iddynt. Dyma enghraifft arall sydd yn cryfhau'r ddadl dros ddatganoli.?
Credwn y dylai'r BBC sicrhau bod Radio Cymru yn wasanaeth cwbl Gymraeg. Rydym eisoes wedi sôn am arferion pobl ifanc, mae dylanwad cryf arnynt o du'r cyfryngau. Mae angen diogelu ac ehangu cyfleoedd gan fandiau Cymraeg, yn enwedig y rhai ifanc, i gael eu chwarae yn osytal â rhagor o gyfleoedd i drafod diwylliant Cymraeg.?
Mae gwefan Gymraeg y BBC yn cynnig gwasanaeth eilradd mewn cymhariaeth a'r un Saesneg, er enghraifft, nid oes gwasanaeth chwaraeon Cymraeg ar y safle bellach. Rydym hefyd wedi gweld y gorfforaeth yn tynnu allan ei bresenoldeb cyhoeddus o'r Eisteddfod yr Urdd. Mae hynny i gyd yn achosi cryn bryder wrth i'r gorfforaeth ceisio cyd-reoli ein hunig sianel deledu Cymraeg.
Mae strwythur presennol y BBC yn golygu fod BBC Cymru yn ddim ond adain o'r BBC nad sydd mewn gwirionedd yn cael rhwydd hynt i weithio yn ddigon annibynnol a strwythur Prydeinig sydd iddi. O ddatganoli byddai modd creu model BBC Cymreig a fyddai'n galluogi'r gorfforaeth i greu strwythur cymunedol ac yn gweithio o ardaloedd amrywiol drwy Gymru yn hytrach na bod yn ganolog i Gaerdydd.
5. Y Wasg Argraffedig
Ystyrir papur dyddiol Cymraeg yn elfen hanfodol o hunaniaeth a hunanhyder cenedl; dylai fod yn nodwedd o bob iaith yn ôl yr Undeb Ewropeaidd. Byddai galluogi rhywun i ddarllen newyddion yn ei iaith ei hun yn gam enfawr tuag at normaleiddio'r iaith ymysg poblogaeth Cymru. Byddai'n anogaeth ac yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr yn ogystal, ac mi fyddai'n gam tuag at sefyllfa o amrywiaeth iach o ran newyddiaduraeth cyfrwng Cymraeg a Chymreig, rhywbeth y mae ar ein gwleidyddiaeth ddatganoledig ei angen yn fawr.
Er croesawn gyfraniad Golwg 360 i bresenoldeb yr iaith ar-lein, rhaid cydnabod fod nifer fawr iawn o boblogaeth Cymru nad ydynt yn gweld y we fyd-eang o un pen i'w hwythnos i'r llall, am resymau ariannol ac argaeledd gwasanaethau. Mae'r bobl yma i'w cael ym mhob dosbarth cymdeithasol ac ym mhob ystod oedran. I'r bobl nad ydynt yn gweithio o flaen cyfrifiadur yn ddyddiol, dywedwn wrthynt nad oes ganddyn nhw'r hawl i'r pethau sydd ar-lein. Dyma enghraifft fechan o'r anallu i gymhwyso egwyddorion sosialaidd i faterion ieithyddol.
Credwn fod bodolaeth papurau bro yn hollbwysig i'r Gymraeg ar lawr gwlad a bod angen adeiladu ar y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd, yn ogystal â'u digideiddio.
6. Radio Lleol
Mae'r sefyllfa'r Gymraeg ar radio lleol yn drychinebus ac wedi dirywio yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn gyntaf, fe ddadleuem fod y term 'radio lleol' yn ddiystyr yng Nghymru gan mai cwmnïau masnachol sy'n ennill y trwyddedau ac yn rheoli'r orsaf. Maent yn dod o'r tu allan i'r gymuned ac mae'r gwasanaeth a gynigir ganddynt yn gwbl Seisnig.
Amlygir y problemau yn achos y ffrae ddiweddar ynghylch Radio Ceredigion o dan berchnogaeth Town and Country Broadcasting. Er fu ymgyrch dorfol lwyddiannus wedi ei rhedeg yn erbyn ymdrechion i leihau'r allbwn Cymraeg yn gynharach eleni, bellach wynebwn ymdrech arall gan y cwmni ynghyd ag Ofcom i gael gwared ag unrhyw ddarpariaeth Gymraeg trwy ail-dendro'r drwydded. Fe wrthododd Ofcom cynnwys cymal yn eu Cynllun Iaith a fyddai'n golygu rhoi ystyriaeth i natur ieithyddol mewn trwyddedau radio lleol. Felly, rydym yn pwyso ar y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru am benderfyniad ynghylch a fydd cymal am ystyriaethau ieithyddol yng nghynllun iaith Ofcom.
Credwn mai cyfundrefn Gymreig yn unig y gallai diogelu gwasanaethau Cymraeg eu hiaith yn y pen draw. Ond, yn methu hynny, mae angen newidiadau i'r gyfraith fel bod modd i awdurdod Cymreig mynnu ar ddarpariaeth Gymraeg ar bob gorsaf radio lleol, fel yr argymhellir isod yng nghyd-destun teledu lleol.
7. Radio Digidol (DAB)
Ymhell cyn i ni glywed am setiau Radio DAB cafwyd penderfyniad tyngedfennol yn y BBC sydd wedi achosi problemau dybryd i wrandawyr radio Cymraeg flynyddoedd yn ddiweddarach.
Penderfynwyd gosod Radio Cymru, Radio Wales a Radio Scotland yn yr un categori a gorsafoedd rhanbarthol y BBC yn Lloegr gyda'r bwriad i'r rhain gael lle ar blethiad radio digidol lleol ar y cyd gyda gorsafoedd radio masnachol yn lle bod ar y plethiad BBC ar draws Prydain.
Mae hyn wedi gweithio yn dda yn Lloegr ond gyda radio masnachol yn wan yn gyffredinol yng Nghymru a phroblemau gyda derbyniad Radio digidol yn rhannau helaeth o Geredigion, Sir Conwy, Gwynedd, Sir Benfro ac Ynys Môn, sydd yn ardaloedd lle ceir canran fawr o wrandawyr Radio Cymru, mae wedi bod yn andwyol. Rydym dal yn aros i gael Radio Cymru ar DAB mewn rhannau helaeth o Gymru am fod y model a osodwyd gan y BBC yn ganolog heb ystyried goblygiadau unigryw cenedlaethol Cymru.
8. Teledu Lleol
O gofio methiant trychinebus radio masnachol i sicrhau lle priodol i'r Gymraeg, credwn fod perygl amlwg y gallai teledu lleol fod yn fygythiad arall i le'r Gymraeg yn y byd cyfryngol. Credwn y dylid sicrhau priod le i'r Gymraeg ar unrhyw wasanaethau teledu lleol a sefydlir. Fe ddylai teledu lleol fod yn bennaf yn y Gymraeg yn yr ardaloedd hynny ble mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol, ac ni ddylai unrhyw wasanaeth teledu lleol mewn unrhyw ran o Gymru gael darlledu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Gwasanaeth Masnachol
Mae'r farchnad wedi methu â chynnig gwasanaeth teledu na gwasanaeth radio teilwng i Gymru ac wedi methu'r Gymraeg (dyna un rheswm pam y cafodd S4C ei sefydlu). Hyd yn oed ar anterth y cwmnïau annibynnol rhanbarthol a wasanaethai rhwydwaith ITV, nid oedd Cymru yn cael ei gweld fel gwlad digon mawr i gynnal gwasanaeth ar ei phen ei hun (dyna pam mai Wales & the West oedd trwydded HTV). Os nad oedd Cymru yn uned ddigon mawr ar gyfer gwasanaeth teledu annibynnol sut ar wyneb y ddaear y disgwylir i ni gynnal gwasanaethau llai gyda channoedd yn fwy o sianeli yn cystadlu yn eu herbyn?
Efelychu'r Taleithiau Unedig
Mae'n amlwg fod yr Ysgrifennydd Diwylliant yn defnyddio America fel patrwm i'w efelychu ar gyfer teledu lleol. Fe ellir dadlau fod gwasanaeth o'r fath yn gweithio yn y fan honno gan fod y dinasoedd ac ardaloedd lleol yn llawer mwy pwerus. Mae yno gysylltiad agos rhwng teledu a democratiaeth leol. Mae'r teledu felly yn trafod materion lleol sydd o bwys i'r dinesydd.
Ni pherthyn yr un grym i lywodraeth leol yng Nghymru gan mai di-rym yw'r cynghorau (pwy sydd eisiau gwylio rhaglen sy'n trafod ar ba ddiwrnod y bydd y biniau yn cael eu casglu?). Y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru yw'r corff sy'n cyfateb o ran grym i'r lefel yna o lywodraeth yn y Taleithiau Unedig ac nid yw hwnnw yn cael fawr ddim sylw ar y cyfryngau Cymreig a llai fyth ar y rhai Prydeinig.
Darlledu Daearol yn Fusnes Drud
Mae darlledu trwy gyfrwng teledu yn eithriadol o ddrud o'i gymharu â'r dulliau newydd ar-lein. Rhaid cwestiynu pa mor synhwyrol fyddai buddsoddi mwy mewn gwasanaeth sy'n mynd allan o ffasiwn, na fydd ar gael i gyfran sylweddol o'r gynulleidfa beth bynnag? Oherwydd y dirwedd, mae Cymru yn fwy dibynnol ar ddarlledu lloeren a chebl na rhannau eraill o'r DU, ac nid yw'r gwasanaethau lleol yn debygol o fod ar gael ar y platfformau hyn.
Byddai defnyddio'r arian a glustnodwyd at wasanaethau lleol i greu gwasanaethau ar-lein, a buddsoddi mewn cysylltiadau cyflymach yng nghefn gwlad, yn gwneud llawer mwy o synnwyr ac o fwy o fudd i fwy o bobl.
Cynlluniau ar gyfer y Dinasoedd a'r Trefi
Mae'r cynlluniau o osodir ger bron yn addas ar gyfer ar gyfer ardaloedd trefol a dinesig yn unig er mai cefn gwlad sy'n dioddef fwyaf o ddiffyg mynediad i wasanaethau digidol ac ar-lein. Dylid gwella darpariaeth band eang yn gyson ar draws y wlad cyn ystyried buddsoddi ymhellach mewn ardaloedd sydd eisoes yn cael eu ffafrio gan ddarpariaeth ddigidol.
Cynllun gelyniaethus i'r Gymraeg
Rhaid pwysleisio yn gryf iawn fod hwn yn gynllun sy'n elyniaethus i'r Gymraeg. Yr ydym eisoes yng Nghymru wedi cael profiad o rym y farchnad ym maes radio lleol. Oherwydd pwysau masnachol mae gwasanaethau radio lleol fel Radio Ceredigion wedi cwtogi yn gyson ar yr oriau a ddarlledir ganddynt drwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw wrthi o hyd yn ceisio lleihau ar yr oriau o Gymraeg a ddarlledir ganddynt. Y union bobl sydd yn flaenllaw ym maes radio lleol yng Nghymru sydd yn arwain ym maes teledu lleol hefyd ac maent wedi dal clust y gweinidog. Dyma'r union bobl sy'n tanseilio'r Gymraeg yn ein cymunedau drwy ei hanwybyddu ar eu gwasanaethau radio lleol.
Ymddengys fod Mr Jeremy Hunt wedi datgan eisoes mewn cyfarfod yng Nghasnewydd na fydd amod Cymraeg ar y gorsafoedd teledu lleol fydd yn eu gwneud yn amherthnasol i fywydau llawer yn ein cymunedau Cymreig. Mae hefyd yn brawf pellach nad cynllun wedi ei anelu at anghenion Cymru yw hwn.
Gwrthod Pwyslais y Torïaid ar Gystadleuaeth
Gwrthodwn yn llwyr bwyslais afiach y Torïaid ar gystadleuaeth a chredwn fod 'integreiddio' a 'chydweithio' yn llawer mwy cydnaws yn y cyd-destun Cymreig (a gwledig). Fe ellid yn sicr ddatblygu polisi o hyrwyddo gwasanaethau bro gyda phartneriaid ar lawr gwlad yn cydweithio a'i gilydd i wasanaethu eu cymunedau, ond weledigaeth hollol wahanol a gwrthun a gynigir yn y cynlluniau presennol.
Wynebu'r Gwaethaf
Os bydd y cynllun Seisnig hwn yn cael ei orfodi arnom o Lundain yna fe fydd yn rhaid sicrhau'r amodau sylfaenol, sef y lleiafswm o gyfran oriau yn ôl natur ieithyddol yr ardal, er enghraifft 60% o'r oriau yn yr iaith Gymraeg ym Mangor a Chaerfyrddin, 30% yn yr Wyddgrug/Dinbych, ac ati. Bydd yn rhaid sicrhau hyn yn y trwyddedau gwreiddiol, gan sicrhau nad oes modd eu newid ar fympwy perchnogion yr orsaf, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar anghenion y gynulleidfa.
Heb gymal o'r fath, rhaid gwrthod y cynlluniau yn llwyr fel rhai cwbl anaddas i Gymru a'r iaith Gymraeg.
9. Hawliau Gweithwyr yn y Diwydiant
Credwn fod angen arolwg o arferion cyflogaeth yn y diwydiant darlledu. Rydym ardeall bod llawer o staff ar gytundebau byr, gyda gweithwyr llawrydd ar gytundebau llai byth, a bod nifer yn gweithio oriau rhy hir ac anghymdeithasol. Credwn fod angen creu rhagor o swyddi parhaol yn y sector annibynnol, a dylai darlledwyr mynnu y cyflogir staff yn y sector hwnnw ar delerau sydd yn unol â'r arfer gorau. Ymhellach, dylid addysgu staff o'r buddiannau o ymaelodi ag undeb.
10. Argymhellion ar gyfer Bil Cyfathrebu San Steffan
Credwn y gallai'r Bil Cyfathrebu gynrychioli cyfle i ddelio â nifer o'r problemau a wynebir gan y cyfryngau yng Nghymru. Argymhellwn felly y dylai'r Bil hwnnw cynnwys darpariaethau ar gyfer:
- Datganoli grym dros ddarlledu a thelathrebu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r gallu i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu yng Nghymru
- Ffederaleiddio'r BBC - mae'n hanfodol bod datganoli grym yn digwydd o fewn y BBC gyda system ffederal fel y dewis gorau, er mwyn sicrhau tegwch a chydbwysedd.
- Rhoi grym i awdurdodau yng Nghymru osod amodau Cymraeg ar drwyddedau radio a theledu lleol
- Sefydlu fformiwla ariannu ar sail chwyddiant i S4C er mwyn diogelu dyfodol y sianel yn y tymor hir
- Codi ardoll (levy) ar ddarlledwyr a chwmnïau telathrebu preifat er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus
- Ehangu cylch gwaith S4C i gynnwys darparu gwasanaethau Cymraeg ar bob cyfrwng, yn hytrach na gwasanaeth teledu yn unig
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Tachwedd, 2011
29 Tachwedd 2011
|
|